Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Grŵp o unigolion sy’n rhannu angerdd dros y celfyddydau ac sydd am wneud gwahaniaeth yw Cylch y Cadeirydd.

Mae’r aelodau Cylch y Cadeirydd yn chwarae rhan hollbwysig yn y broses o ariannu ein prosiectau a’n cynyrchiadau, drwy gyfrannu isafswm o £5,000 y flwyddyn, gan ein galluogi ni i ymestyn ein gwaith trawsffurfiol gyda phobl ifanc, cymunedau a doniau newydd.

P’un a yw cyfraniadau’n gyfyngedig neu’n anghyfyngedig, mae pob aelod o’r grŵp yn datblygu perthynas personol â ni, wedi’i deilwra i’w ddiddordebau. Er enghraifft:

Angerddol dros gynyrchiadau newydd? Byddwn ni’n mynd â chi at galon y broses ddatblygu, gan gyfarfod â dramodwyr, cyfarwyddwyr ac actorion wrth i ddarn ddatblygu, ac yn rhoi cyfle i fod yn rhan o weithdai a nosweithiau agoriadol.

Am newid bywydau ifanc? Dewch i gwrdd â’r bobl ifanc ysbrydoledig sy’n cymryd rhan yn ein rhaglenni dysgu creadigol i weld effaith eich cefnogaeth yn uniongyrchol. Dilynwch nhw ar eu taith drawsffurfiol gyda ni ac ymunwch â ni am ddigwyddiadau cysylltiedig arbennig.

Mae pob aelod o Gylch y Cadeirydd hefyd yn cael gwahoddiad i dreulio amser gyda’n uwch-dîm rheoli, er mwyn closio at ein gwaith, ein gweledigaeth a’n cynlluniau.

Mae aelodau’n mwynhau holl fuddion aelodaeth Partner Awen, yn ogystal â gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig drwy’r flwyddyn a chydnabyddiaeth amlwg.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Cecily Morgan, Rheolwr Dyngarwch: cecily.morgan@wmc.org.uk

 

Diolch i aelodau cyfredol Cylch y Cadeirydd:

Dr Carol Bell
Bob a Lindsay Clark
Y Fonesig Vivien Duffield DBE
Diane Briere de l'Isle-Engelhardt OBE
Henry Engelhardt CBE
Dyfrig a Heather John
Sylvia Richards er cof am Clive Richards CBE KSG DL
Mr Peter a Mrs Janet Swinburn
David Stevens CBE a Heather Stevens CBE